Yn sefyll mewn 20 erw o diroedd hardd, mae Pentref Pwyliaid Penrhos yn lle gwych i fyw i bobl dros 55 oed.
Mae’r preswylwyr wrth eu bodd hefo’r ymdeimlad o gymuned sy’n bodoli ym Mhenrhos. Mae’n cynnig lolfeydd cymunedol ac ardal fwyta ac eglwys, ynghyd â hanes ac etifeddiaeth ryfeddol – cychwynnodd Pentref Pwyliaid Penrhos fel canolfan awyr yn 1949 i filwyr, y llu awyr a morwyr o Wlad Pwyl, a sefydlodd gymuned Bwyleg ei hiaith.
Yma gallwch fyw’r ffordd o fyw yr ydych yn ei ddymuno, gan fyw mor annibynnol â phosibl, gyda chyfleoedd i gymdeithasu â’ch cymdogion a chymryd rhan mewn digwyddiadau, y cyfan hefo’r sicrwydd bod cefnogaeth a chyngor ar gael ar drothwy eich drws.
Adrodd Hanes Pentref Pwyliaid Penrhos
Byw’n Annibynnol i Bobl Hŷn