Sut i roi adroddiad am waith trwsio
- Mewngofnodwch i borth ‘FyClwydAlyn’ i roi adroddiad am waith trwsio
- Y Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid rhwng 8.00 a 6.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener ar y rhif rhadffôn: 0800 183 5757 neu anfonwch e-bost at help@clwydalyn.co.uk
- Gallwch ofyn am alwad yn ôl yn ystod oriau swyddfa a byddwn yn eich galw yn ôl heb unrhyw gostau i chi.
Beth sy’n digwydd nesaf?
- Byddwch yn derbyn nodyn i’ch atgoffa o’ch apwyntiad trwy neges testun neu e-bost
- Rhaid i oedolyn fod yn bresennol i’n gweithwyr gael dod i mewn i’ch eiddo
- Rhaid i ardal y gwaith fod yn hygyrch ac wedi ei glirio yn barod ar gyfer ein gweithwyr
- Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol ar gyfer yr apwyntiad yr ydym wedi ei drefnu, rhowch wybod i’n tîm ar 0800 183 5757
- Gall ein gweithwyr alw heb apwyntiad os byddant yn yr ardal ond dim ond os bydd yn gyfleus i chi y byddant yn gwneud y gwaith trwsio
Amseroedd gwaith trwsio
Yn nodweddiadol 1 Apwyntiad cyn pen 24 awr
Yn nodweddiadol gwaith yn gofyn am 1 crefftwr dros 1 neu 2 apwyntiad
Yn nodweddiadol gwaith yn gofyn am nifer o grefftwyr neu nifer o apwyntiadau
Yn nodweddiadol gwaith mawr i gael ei drefnu gyda dyddiad dechrau wedi ei gytuno
Cyfrifoldebau trwsio
Mae eich cyfrifoldebau trwsio yn ddibynnol ar ba denantiaeth sydd gennych. Bydd Prydles a Rhanberchnogaeth yn wahanol.
Os ydych mewn eiddo newydd ac yn dal yn y cyfnod ‘diffygion 12 mis’, llenwch y ffurflen sydd ar gael ar y dudalen cysylltwch â ni.
- Strwythur a thu allan eich cartref. Mae hyn yn golygu’r to, waliau, drysau, fframiau drysau a lloriau
- Gwterydd, pibelli a draeniau o fewn ffiniau eich cartref
- Bath, toiledau (ond nid y seddi) sinciau a basnau ymolchi
- Ffenestri
- Gwifrau trydanol, pibellau nwy, gwresogyddion wedi eu gosod, rheiddiaduron a gwresogyddion dŵr
- Cynnal a chadw ardaloedd cymunedol a’u cyflenwad trydan pan fyddant yn cael eu darparu
- Peintio’r tu allan
- Popeth sy’n eiddo i chi
- Seddi’r toiled
- Pibelli dŵr budr wedi blocio
- Poptai, oergelloedd (oni bai eu bod wedi eu darparu gan ClwydAlyn, mewn rhai cynlluniau cysgodol er enghraifft)
- Ffiwsys, bylbiau golau a thiwbiau fflwroleuol
- Goriadau yn lle rhai eraill.
- Unrhyw ddifrod yr ydych chi, eich teulu a/neu eich ymwelwyr yn ei achosi
- Addurno’r tu mewn i’ch cartref
Mae unrhyw waith sy’n deillio o waith diffygiol a wnaed gennych chi neu gan weithwyr a gyflogwyd gennych chi (nid staff ClwydAlyn) yn gost taladwy gennych chi.
Yn ychwanegol, pan fydd ClwydAlyn yn gwneud unrhyw waith yr ystyrir ei fod yn gyfrifoldeb y preswyliwr, neu bod angen iddynt wneud gwaith pan fyddwch yn dwyn eich tenantiaeth â ni i ben, bydd tâl yn cael ei godi arnoch am hyn hefyd.
Gwaith Trwsio Argyfwng
Gwaith Trwsio Argyfwng
- Dim gwres neu ddŵr poeth
- Cloeon neu goriadau ar goll
- Colli trydan
- Nwy yn gollwng neu darth
- Gosodiadau trydanol yn cyffwrdd dŵr
- Gwifrau trydan byw neu yn y golwg
- Carthffosiaeth yn llifo i’r cartref
- Dŵr na ellir ei reoli yn gollwng
- Tanciau storio, silindrau neu bibellau yn gollwng
- Larymau tân/mwg cymunedol diffygiol yn canu
- Brics neu deils to yn rhydd neu’n beryglus
- Problemau gydag addasiadau mawr – e.e. lifftiau i deithwyr
Gwaith ar eich cartref
Byddwn yn cynnal a chadw eich cartref yn gyson i wneud yn siŵr ei fod yn cadw at y safonau.
Mae’r gwaith hwn yn cynnwys:
- Rhoi gwasanaeth i’r holl offer nwy a thanwydd bob blwyddyn
- Gwiriadau diogelwch trydanol bob pum mlynedd
- Addurno ardaloedd cymunedol mewn Tai â Chefnogaeth a fflatiau
- Cynnal a chadw lifftiau cymunedol, larymau tân a mwg ac offer diogelwch tân
- Goleuadau argyfwng
- Tynnu asbestos
- Archwiliadau diogelwch tân i adeiladau cymunedol
- Arolygu cyfleusterau storio dŵr cymunedol
- Cynnal a chadw mannau agored a mannau gwyrdd
- Profir synwyryddion mwg/ gwres/ CO2 yn flynyddol
Gwaith mwy yw’r rhain fel
- Gwella Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi
- Gwella Ffenestri a Drysau
- Gwella Systemau Gwresogi
- Peintio Allanol
- Mân Brosiectau
A oes gennych fân waith trwsio y gallech chi ei ddatrys eich hun? Cysylltwch os gwelwch yn dda ac fe wnawn ni ddarparu’r darnau!
Trwy wneud eich mân waith trwsio eich hun, gallwch leihau’r amser aros a gwneud y gwaith yn eich amser eich hun. Mewn rhai achosion, gall hyn leihau’r angen i chi gymryd amser o’r gwaith er mwyn i’r tîm trwsio gael mynediad i’ch cartref.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud eich gwaith trwsio eich hun, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt ClwydAlyn ar 0800 1835757 lle bydd aelod o’r tîm yn trafod y broses hefo chi.