Hygyrchedd
Rydym am i bawb sy’n dod i wefannau ClwydAlyn deimlo fod croeso iddyn nhw a chael budd o’r profiad.
Beth ydym ni’n ei wneud?
Er mwyn ein helpu i wneud gwefannau ClwydAlyn yn lle cadarnhaol i bawb, rydym wedi bod yn defnyddio’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1. Mae’r canllawiau yma yn esbonio sut i wneud cynnwys gwefannau yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau, ac yn hawdd eu defnyddio i bawb. Mae gan y canllawiau dair lefel o ran hygyrchedd (A, AA ac AAA). Rydym wedi dewis Lefel AA fel targed i wefannau ClwydAlyn .
Sut yr ydym yn gwneud?
Rydym wedi gweithio’n galed ar wefannau ClwydAlyn a chredwn ein bod wedi llwyddo i gyrraedd ein nod o hygyrchedd Lefel AA. Rydym yn monitro’r wefan yn gyson i gynnal hyn, ond os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau cysylltwch â ni.
Gadewch i ni wybod beth ydych chi’n ei feddwl
Os byddwch chi yn mwynhau defnyddio gwefannau ClwydAlyn , neu os byddwch chi wedi cael trafferth ar unrhyw ran, cysylltwch. Byddem yn falch o glywed gennych, cysylltwch â ni.