Skip to content

Mae ClwydAlyn yn falch iawn o gyhoeddi eu bod wedi ymuno â’u Partner Carbon, Auditel, i gyflawni eu hamcan strategol o gyrraedd Sero Net.

Ffurfiwyd ClwydAlyn yn 1978 fel Landlord Cymdeithasol Cofrestredig anelusennol. Maent yn awr yn rheoli dros 6,300 o gartrefi ac yn cyflogi tua 750 o bobl sy’n gweithio gyda’i gilydd i drechu tlodi. Mae eu cartrefi a’u gwasanaethau yn amrywio o ofal a gofal nyrsio, tai â chefnogaeth, gwasanaethau datblygu i drwsio a chynnal a chadw yn ardal saith awdurdod lleol ar draws gogledd a chanolbarth Cymru.

 

Esboniodd Pennaeth Technegol, Arloesedd a Hinsawdd ClwydAlyn, Tom Boome:

“Ein cenhadaeth yw ‘gyda’n gilydd i drechu tlodi’ – Rydym am i bawb yng Ngogledd Cymru i gael mynediad at dai o safon ragorol, ac rydym am weithio gyda phartneriaid i ymdrin ag achosion ac effeithiau tlodi.

“A fydd yn ei dro yn helpu i gyfoethogi ein cymunedau trwy roi cefnogaeth lle mae ei hangen, boed hynny yn helpu pobl yn ôl i waith, brwydro yn erbyn bod yn ynysig yn gymdeithasol neu gefnogaeth neu roi mynediad at fwyd maethlon. Ein gwerthoedd yw Gobaith, Ymddiriedaeth a Charedigrwydd. Rydym yn cynnwys y rhain ym mhopeth a wnawn.

“Mae ClwydAlyn yn ymroddedig i safle sero net ac ymdrin â heriau newid hinsawdd mewn ffordd gynaliadwy a darbodus. Mae Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog wedi gosod targed i sicrhau bod yr holl gartrefi yn rhai Carbon Sero erbyn 2050. Ond, ein huchelgais ni yw gyrru’r newid hwn yn gynharach!

“Rydym am dorri tir newydd o ran wynebu’r heriau amgylcheddol sydd o’n blaenau a chydnabod bod angen i’n busnes newid ei ymddygiad i ymdrin â’r brys sydd o ran yr argyfwng hinsawdd, sy’n gofyn am fuddsoddiad sylweddol o ran cyfalaf, adnoddau ac amser.

“Mae’r tîm yn edrych ymlaen at weithio gydag Auditel, sydd yn ymgynghorwyr carbon ardystiedig, a fydd yn ein cynorthwyo i ddatblygu strategaeth cynaliadwyedd a sero net a fydd yn dangos ble’r ydym a chreu cynlluniau i ClwydAlyn wrth symud ymlaen; gyda’r nod o wella bywydau cymunedau lleol yr ydym yn eu gwasanaethu yma yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, gan daclo materion fel tlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni ein cartrefi.

“Mae gwneud gwahaniaeth yn gymdeithasol ac amgylcheddol o bwys i ni. Rydym yn edrych ymlaen at y daith gyffrous newydd hon, a fydd yn gadael i ni ymdrin â’r anghyfartaledd cymdeithasol sy’n bodoli yn ein cymdeithas ar hyn o bryd, yn ogystal â chwarae ein rhan wrth daclo newid hinsawdd.”

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.