Skip to content
Image of mum with two children looking at a tablet device

Gwirich beth sydd gennych hawl i’w gael

Gwnewch eich asesiad budd-daliadau eich hu

Budd-daliadau â phrawf modd a Budd-daliadau Anabledd. 

Mae gan ClwydAlyn dîm ymroddedig o Swyddogion Hawliau Lles a Chyngor Ariannol yn barod i helpu a chefnogi. Os hoffech chi siarad ag aelod o’r tîm ffoniwch 0800 183575.

Cap Budd-daliadau
Mae’r Cap Budd-daliadau yn rhoi cyfyngiad ar y swm o Fudd-dal Lles y gall rhai pobl ei hawlio.
Dysgwch ragor yma
Budd-daliadau Anabledd
Os bydd gennych chi neu rywun sy’n byw gyda chi anabledd neu salwch, wedyn efallai y bydd gennych hawl i gael budd-dal anabledd.

Mae 3 math o fudd-dal anabledd – Lwfans Byw i’r Anabl (DLA), Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a Lwfans Gweini (AA).
Dysgwch ragor yma
Treth Ystafelloedd Gwely
Bydd hwn yn creu gostyngiad mewn Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol os bydd unigolyn yn cael ei ystyried yn tanlenwi ei eiddo Tai Cymdeithasol.
Dysgwch ragor yma
Credyd Cynhwysol (UC)
Budd-dal â phrawf modd yw Credyd Cynhwysol (UC) a delir i bobl o oedran gwaith sydd ar incwm isel.

Mae’n disodli 6 budd-dal - Budd-dal Tai, Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant, Cymorth Incwm, Lwfans Cefnogi Cyflogaeth ar Sail Incwm a Lwfans Chwilio am Waith Ar Sail Incwm.
Dysgwch ragor yma
Gostyngiad yn y Dreth Gyngor
Gallech fod yn gymwys os ydych ar incwm isel neu yn hawlio budd-daliadau. Gall eich bil gael ei ostwng o hyd at 100%.
Ymgeisiwch yma
Credyd Pensiwn
Mae Credyd Pensiwn yn rhoi arian ychwanegol i chi i helpu gyda’ch costau byw os ydych dros oedran y Pensiwn Gwladol ac ar incwm isel.

Gall Credyd Pensiwn hefyd helpu gyda chostau tai fel rhent daear neu daliadau gwasanaeth.
Dysgwch ragor

Cyngor Ariannol

Stepchange debt charity logo
Step Change
Yn rhoi cyngor am ddim am ddyledion, i’ch helpu i ymdrin â’ch dyled a threfnu datrysiad. Rydym yma i’ch helpu.
Dysgwch ragor
citizens advice logo
Cyngor ar Bopeth
Yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder sydd ar bobl eu hangen i ddod o hyd i’w ffordd ymlaen - pwy bynnag ydynt, a beth bynnag yw eu problem.
Dysgwch ragor
money & pensions service logo
Gwasanaeth Arian a Phensiwn
Cyngor arian a phensiynau diduedd, gyda chefnogaeth y llywodraeth ac am ddim i’w ddefnyddio.
Dysgwch ragor yma
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.