Nododd seremoni torri’r dywarchen ddechrau’r gwaith ar brosiect £5.5m, a fydd yn gweld 29 o gartrefi’n cael eu hadeiladu yn Ynys Môn.
Bydd cynllun Tre Angharad ym Modedern, sy’n bartneriaeth rhwng Cymdeithas Tai ClwydAlyn, Cyngor Sir Ynys Môn, Llywodraeth Cymru a DU Construction, yn gweld 28 o dai ac un byngalo yn cael eu hadeiladu.
Mae’r cartrefi teuluol fforddiadwy newydd yn rhan o raglen adeiladu uchelgeisiol ClwydAlyn sy’n cyd-fynd â chynllun uchelgeisiol Cyngor Sir Ynys Môn i gynyddu’r ddarpariaeth dai ar yr ynys.
Dywedodd Pennaeth Datblygu a Thwf yn ClwydAlyn, Penelope Storr:
“Rydym yn ymroddedig i weithio gyda’n partneriaid yma ar brosiect Stad Bryn Glas i fodloni anghenion tai lleol yn yr ardal.
“Bydd y prosiect cyffrous yma yn adeiladu ar ein hymrwymiad i drechu tlodi yma yng Ngogledd Cymru yn ogystal â dod â llety fforddiadwy y mae galw mawr amdano i’r ardal leol, gan gynnig cartrefi newydd, modern a fydd yn bodloni anghenion y boblogaeth leol.”
Bydd y cartrefi hyn yn cael eu hadeiladu yn ôl safonau effeithlonrwydd ynni uchel gyda strwythur ffrâm bren a lefel uchel o inswleiddiad, gan ddarparu cartrefi carbon isel effeithlon. Bydd hyn yn sicrhau bod angen yr ynni lleiaf posibl i gadw’r tai yn gynnes, gan leihau costau ynni, gan ddarparu ffordd o fyw fwy gwyrdd a glanach.
Bydd y cwmni adeiladu o Ynys Môn, DU Construction Ltd yn cyflawni’r gwaith adeiladu, gan ddefnyddio eu harbenigedd eang o ran cyflawni prosiectau adeiladu ar draws Gogledd Cymru am dros 25 mlynedd.
Dywedodd Mark Blackwell Cyfarwyddwr DU Construction:
“Mae DU Construction Ltd yn edrych ymlaen at weithio’n glos eto gyda ClwydAlyn i gyflawni’r prosiect hwn gan gynnal y gwaith adeiladu o safon uchel a ddisgwylir gennym.
“Rydym hefyd yn falch o fod yn gweithio yn y gymuned yr ydym yn rhan ohoni, er mwyn gallu cynnig sicrwydd gwaith i lawer o grefftwyr a chyflenwyr lleol ac i ddarparu tai fforddiadwy y mae angen mawr amdanynt yn yr ardal.”
Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Deiliad Portffolio Tai a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Ynys Môn:
“Fel rhan o’n hymrwymiad i sicrhau bod gan bawb rywle i’w alw yn gartref, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio’n galed i symud y prosiect tai gwych yma yn ei flaen.”
Mae’r cynllun yn rhan o raglen ddatblygu ClwydAlyn i ddarparu 1500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 am fuddsoddiad o £250m gan ddod â chyfanswm y tai y maent yn eu rheoli i dros 7,500.