Ein Gwerthoedd
Gwerthoedd ClwydAlyn yw Ymddiriedaeth, Caredigrwydd a Gobaith. Seiliwyd ein strategaeth caffael ar y gwerthoedd yma. Mae ein dull o gaffael yn un sy’n llunio ymddiriedaeth gyda’n cadwyni cyflenwi fel eu bod am weithio gyda ni. Mae tenantiaid a rhanddeiliaid allweddol eraill yn rhan o ddiffinio gwasanaethau, fel eu bod yn gallu dylanwadu ar yr hyn yr ydym yn ei wneud, faint y mae’n ei gostio ac yn gallu ein helpu i wella ansawdd y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.
Rydym yn ymroddedig i agenda Polisi Caffael Llywodraeth Cymru a’r datganiad polisi caffael ac rydym wedi cefnogi Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru. Mae ClwydAlyn hefyd yn ymroddedig i gadw at ymrwymiadau moesegol a moesol wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau.
Rydym yn argymell y dylech gofrestru fel cyflenwr ar Gwerthwch i Gymru i sicrhau eich bod yn gallu rhoi tendr ar gyfer unrhyw gyfleoedd lleol neu ranbarthol. Trwy ymuno gallwch dderbyn hysbysiadau awtomatig ar gyfer ClwydAlyn a thendrau lleol eraill fel na fyddwch yn colli cyfle.
Ein cam cyntaf yw sefydlu a yw’r nwyddau, gwaith neu wasanaethau yn dod dan gontract neu fframwaith sy’n bodoli. Os ydyn nhw, yna rhaid i ni ddefnyddio’r cyflenwr hwnnw, os na, yna mae gwerth y contract yn cael effaith ar y broses gaffael fel y disgrifir isod.
Pennir gwerth contract trwy amcangyfrif gwerth nwyddau, gwasanaethau neu waith sy’n ofynnol a hyd y gofyn.
Gwerth Contractau
Pennir gwerth contract trwy amcangyfrif gwerth nwyddau, gwasanaethau neu waith sy’n ofynnol a hyd y gofyn.
- Pennir gwerth contract trwy amcangyfrif gwerth nwyddau, gwasanaethau neu waith sy’n ofynnol a hyd y gofyn.
- Bydd pryniannau o’r gwerth hwn yn cael o leiaf dri dyfynbris ysgrifenedig a bydd y cyflenwyr yn cael eu dewis o restr a gymeradwywyd.
- Bydd pryniannau o’r gwerth hwn fel arfer yn cael eu hysbysebu ar Gwerthwch i Gymru neu bydd cyflenwyr yn cael eu dewis trwy ddyfynbris ffurfiol
- Bydd pryniannau o’r gwerth hwn fel arfer yn cael eu hysbysebu ar Gwerthwch i Gymru trwy dendr agored neu gyfyngedig.