Mae Tai ClwydAlyn yn mynd i ddarparu tai fforddiadwy 100% ar rent yn Llandudno a fydd yn cynnig cymysgedd o gartrefi i deuluoedd yn ogystal ag i rai dros 55 oed.
Bydd y datblygiad newydd ar Builder Street, yn cynnwys 77 o gartrefi un, dwy, tair a phedair ystafell wely mewn ardal lle mae adroddiad annibynnol wedi nodi bod prinder.
Bydd y gwaith paratoi yn dechrau yn fuan, gan ddechrau clirio’r safle a chreu llwybrau mynediad newydd, a bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn gynnar yn haf 2022.
Mae’r cynllun yn rhan o raglen ddatblygu ClwydAlyn i ddarparu 1500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 am fuddsoddiad o £250m gan ddod â chyfanswm y tai y maent yn eu rheoli i dros 7,500.
Dywedodd Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn:
“Bydd datblygu’r safle hwn yn 77 o gartrefi newydd o safon uchel yn ymdrin ag angen allweddol am dai fforddiadwy i gymysgedd o bobl yn yr ardal leol. Byd y dyluniad a safon uchel yr adeiladau yn sicrhau y bydd y cartrefi nid yn unig yn llawn steil a chyfforddus ond hefyd yn addas at y dyfodol.
“Rydym yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth â Lane End i’r cynllun ddwyn ffrwyth a chreu cymuned newydd fywiog, yn ogystal â rhoi hwb i gyflogaeth yn lleol.”
Bydd Lane End yn gwneud y gwaith adeiladu ar y safle, gan ddefnyddio eu profiad eang yn y sector adeiladu a thai.
Esboniodd Scott Ashall, Cyfarwyddwr Tir Grŵp Lane End:
“Mae hwn yn brosiect cyffrous a fydd yn creu cartrefi newydd y mae angen mawr amdanynt.
“Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â ClwydAlyn i sicrhau bod anghenion y gymuned leol yn cael eu bodloni yn ogystal â rhanddeiliaid eraill. Nid yn unig bydd y datblygiad yn darparu cartrefi effeithlon iawn o ran ynni ond bydd hefyd yn creu cyfleoedd gwaith i bobl leol fel rhan o’r gwaith adeiladu.”
Ychwanegodd Craig Sparrow:
“Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu dechrau’r gwaith ar y safle. Mae’r tîm wedi gweithio’n galed iawn i gael y prosiect hwn i’r cam yma a fydd yn dod â dros £12.7 miliwn o fuddsoddiad lleol, gan gefnogi ein hymdrech i gyfoethogi cymunedau Gogledd Cymru.”