Mae’r Bwrdd yn cynnwys un ar ddeg o Aelodau o’r Bwrdd a dau o gynrychiolwyr y preswylwyr sy’n Aelodau o’r Bwrdd.
Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bod deufis ac mae nifer o Bwyllgorau hefyd sydd ag awdurdod penodol wedi ei ddirprwyo iddynt ac yn rhoi adroddiad i’r Bwrdd am eu gweithgareddau.
Fel Landlord yng Nghymru mae’n ofynnol i ni gadw at y Cod Llywodraethu neu esbonio pam nad ydym yn gwneud hynny. Mae’r cod yn cynnwys saith egwyddor llywodraethu da, yn cynnwys; Diben Sefydliadol; Arweinyddiaeth; Didwylledd; Gwneud Penderfyniadau, Risg a Rheoli; Effeithiolrwydd y Bwrdd; Amrywiaeth a Bod yn Agored ac Atebolrwydd. Cynhaliwyd adolygiad o’r modd yr ydym yn cydymffurfio â’r cod a chredwn ein bod yn cydymffurfio.
Cyfrifoldeb y Tîm Gweithredol a’r Uwch Reolwyr yw rhedeg ClwydAlyn o ddydd i ddydd.
Yn ychwanegol, mae’r pwyllgor yn sicrhau bod ClwydAlyn yn gwobrwyo, ymgysylltu, datblygu a denu a chadw’r bobl orau i ddiwallu ein dibenion yn effeithiol a bod iechyd a llesiant y staff, bwrdd, aelodau pwyllgorau a gwirfoddolwyr yn cael eu deall ac yn cael gofal.
Diffinnir Craffu gan Breswylwyr fel mabwysiadu dull sy’n rhoi’r pwyslais ar y preswylwyr wrth roi gwasanaethau sy’n rhoi manteision i’r tenantiaid, preswylwyr a’r cymunedau. Dylai craffu arwain at wasanaeth sy’n gwella’n barhaus; trwy fod tenantiaid a phreswylwyr yn ei siapio ac yn cymryd rhan mewn penderfyniadau gan ClwydAlyn.