Skip to content

Michael Larkin
Michael Larkin
Aelod o'r Pwyllgor Eiddo

Mae Michael yn arweinydd caffael sydd â dros 20 mlynedd o brofiad yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae gan Michael brofiad eang ym maes Tai, y GIG, addysg, ymgynghori a’r diwydiant niwclear.

Llwyddiannau trawiadol Michael yw sefydlu swyddogaethau caffael strategol yn yr amgylchedd Tai tir glas, i gyflawni arbediadau arian parod ar Werth Cymdeithasol. Mae gan Michael ddwy radd ac mae’n weithiwr proffesiynol siartredig, wedi gweithio nifer o weithiau gyda’r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi.

Read my bio
Brian Strefford
Brian Strefford
Aelod Bwrdd, Is-gadeirydd Pwyllgor Preswylwyr, Pwyllgor Eiddo

Mae Brian wedi bod â diddordeb mewn Tai Cymdeithasol ers blynyddoedd: roedd ei rieni’n byw mewn tŷ cyngor am nifer o flynyddoedd dedwydd. Dychwelodd i Dai Cymdeithasol dros 25 mlynedd yn ôl pan ddaeth yn denant i ClwydAlyn.

Cafodd Brian yrfa amrywiol, o’r diwydiant olew, y fasnach drwyddedig, gwasanaethau ariannol a TG, gan gael cyfnod yn y nawdegau cynnar fel gwirfoddolwr i’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Dysgodd Brian lawer o sgiliau yn ystod ei daith, gan gynnwys y gallu i wrando a siarad â phobl. Brian yw Is-gadeirydd y Pwyllgor Preswylwyr ac mae hefyd yn eistedd ar y Pwyllgor Eiddo.

Read my bio
Eileen Smith Hughes
Aelod o'r Pwyllgor Eiddo a Phwyllgor Pobl

Bu Eileen yn gweithio yn y Banc am 25 mlynedd. Mae wedi gwasanaethu ar Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol Undeb Staff y Banc ac fel Cynghorydd Tref ym Mhenmaenmawr.

Read my bio
Sandy Mewies portrait picture On site picture of board member Sandy
Sandy Mewies
Aelod o’r Bwrdd

Ymunodd Sandy â Bwrdd ClwydAlyn yng Ngorffennaf 2016 hi yw’r cyn Aelod Cynulliad dros Delyn, a ildiodd y sedd ar ôl 13 mlynedd yn y Senedd.  Yn ystod ei chyfnod yn y Cynulliad Cenedlaethol, bu Sandy yn craffu ar Ddeddfwriaeth Tai Llywodraeth Cymru fel Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant. Roedd hi hefyd yn un o Aelodau Cyntaf a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai.  Cyn hynny, roedd Sandy hefyd yn Gomisiynydd y Cynulliad gyda phortffolio corfforaethol eang yn amrywio o ddiogelwch i gyfartaledd.

Bu’n gweithio hefyd fel gohebydd am flynyddoedd yn ogystal ag ym myd addysg a’r sector gwirfoddol. Bu’n Gynghorydd yn Wrecsam am dros 15 mlynedd, gan gadeirio’r Pwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol, fel Aelod Gweithredol o’r Bwrdd ac roedd yn Faer yn 2001/02.  Bu Sandy hefyd yn un a benodwyd gan y Swyddfa Gartref ar Fwrdd Prawf Gogledd Cymru ac mae’n Gymrawd Er Anrhydedd o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Read my bio
Hayley Hulme portrait picture
Hayley Hulme
Aelod o’r Bwrdd
ClwydAlyn Is-gadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Eiddo

Ymunodd Hayley â Bwrdd ClwydAlyn ym mis Gorffennaf 2021.

Mae Hayley yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar Starts with you, Menter Gymdeithasol sy’n is-gwmni i Gymdeithas Dai. Mae’n angerddol am wneud busnes yn gyfrifol a galluogi pobl a mannau i wneud newidiadau positif.

Mae ganddi bron i 30 mlynedd o brofiad yn y sector Tai a Mentrau Cymdeithasol, gan weithio o fod yn Swyddog Datblygu i Gyfarwyddwr Adfywio ym maes tai, gan redeg ei ymgynghoriaeth adfywio ei hun fel Rheolwr Gyfarwyddwr Starts with you.

Mae Hayley hefyd yn aelod o Banel Cynghori Mentrau Cymdeithasol Maer Manceinion Fwyaf ac yn Ymddiriedolwr o Sefydliad Cymunedau newydd Siambr Fasnach Manceinion Fwyaf.

Read my bio

Mae’r Bwrdd yn cynnwys un ar ddeg o Aelodau o’r Bwrdd a dau o gynrychiolwyr y preswylwyr sy’n Aelodau o’r Bwrdd.

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bod deufis ac mae nifer o Bwyllgorau hefyd sydd ag awdurdod penodol wedi ei ddirprwyo iddynt ac yn rhoi adroddiad i’r Bwrdd am eu gweithgareddau.

Fel Landlord yng Nghymru mae’n ofynnol i ni gadw at y Cod Llywodraethu neu esbonio pam nad ydym yn gwneud hynny. Mae’r cod yn cynnwys saith egwyddor llywodraethu da, yn cynnwys; Diben Sefydliadol; Arweinyddiaeth; Didwylledd; Gwneud Penderfyniadau, Risg a Rheoli; Effeithiolrwydd y Bwrdd; Amrywiaeth a Bod yn Agored ac Atebolrwydd. Cynhaliwyd adolygiad o’r modd yr ydym yn cydymffurfio â’r cod a chredwn ein bod yn cydymffurfio.

Cyfrifoldeb y Tîm Gweithredol a’r Uwch Reolwyr yw rhedeg ClwydAlyn o ddydd i ddydd.

Y Pwyllgor Sicrhau
Y Pwyllgor Sicrhau sy’n rhoi sicrwydd i’r Bwrdd am effeithiolrwydd system reoli fewnol y Grŵp (sy’n cynnwys rheoli risg, rheolaeth weithredol a chydymffurfio), Archwilio mewnol ac allanol, iechyd a diogelwch, adrodd ariannol a chydymffurfio ag Arolygaeth Gofal Cymru.
Mae’r Pwyllgor Eiddo
Mae’r Pwyllgor Eiddo yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd am ansawdd, gwerth am arian a pherfformiad y buddsoddiad mewn adeiladu cartrefi newydd a chynnal y cartrefi sy’n bodoli.
Mae’r Pwyllgor Pobl
Mae’r Pwyllgor Pobl yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod yr hinsawdd a’r diwylliant sefydliadol yn gweithredu a datblygu yn unol â’n gwerthoedd a’n cenhadaeth.

Yn ychwanegol, mae’r pwyllgor yn sicrhau bod ClwydAlyn yn gwobrwyo, ymgysylltu, datblygu a denu a chadw’r bobl orau i ddiwallu ein dibenion yn effeithiol a bod iechyd a llesiant y staff, bwrdd, aelodau pwyllgorau a gwirfoddolwyr yn cael eu deall ac yn cael gofal.
Mae’r Pwyllgor Preswylwyr
Mae’r Pwyllgor Preswylwyr yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd o ymgysylltu â Phreswylwyr, craffu gan Breswylwyr, perfformiad ar wasanaethau i Breswylwyr a dylanwad Preswylwyr ar wasanaethau.

Diffinnir Craffu gan Breswylwyr fel mabwysiadu dull sy’n rhoi’r pwyslais ar y preswylwyr wrth roi gwasanaethau sy’n rhoi manteision i’r tenantiaid, preswylwyr a’r cymunedau. Dylai craffu arwain at wasanaeth sy’n gwella’n barhaus; trwy fod tenantiaid a phreswylwyr yn ei siapio ac yn cymryd rhan mewn penderfyniadau gan ClwydAlyn.
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.