Mae Tai ClwydAlyn ar y cyd â Chyngor Sir Powys yn datblygu 66 o fflatiau 1 a 2 y stafell wely hunangynhwysol ar rent, i unigolion 60 oed a hŷn gyda gofal neu angen cefnogaeth wedi ei asesu. Rhoddir blaenoriaeth i breswylwyr ardal Powys neu sydd â chysylltiadau clos ag ardal Powys. Bydd y cynllun yn cynnwys cyfleusterau cymunedol ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau, bwyty, man parcio ar y safle ac ardaloedd wedi eu tirlunio.
Bydd y gwasanaethau rheoli tai a’r gwasanaethau ategol yn cael eu darparu gan ClwydAlyn, tra bydd Cyngor Sir Powys yn cymryd cyfrifoldeb am ddarparu gofal cartref ar y safle.
Mae Neuadd Maldwyn yn adeilad rhestredig Gradd II ac fe’i defnyddiwyd gan Gyngor Sir Powys hyd 2021 a chyn hynny roedd yn brif swyddfa i Gyngor Dosbarth a Sir Drefaldwyn. Mae’r adeilad yn dyddio yn ôl i ddechrau’r 20fed ganrif a bydd ei addasu yn fflatiau yn cael ei gyflawni mewn modd llawn cydymdeimlad gan gadw ei gyfoeth o nodweddion gwreiddiol. Yn sefyll yng nghanol y Trallwng, mae Neuadd Maldwyn yn agos ar droed i gyfleusterau a siopau lleol. Mae’n hawdd ei gyrraedd trwy’r cysylltiadau teithio cyfleus.